Rhyngweithiadau planhigyn-pridd y rhywogaeth ymledol Rhododendron ponticum L.

Authors Organisations
Type

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award date2020
Links
View graph of relations

Abstract

Bu cynnydd yn y symudiad rhyngwladol o blanhigion yn dilyn globaleiddio, gyda nifer o rywogaethau’n datblygu’n ymledol yn eu cynefinoedd newydd. Mae Rhododendron ponticum yn enghraifft o blanhigyn ymledol yng Nghymru sy’n achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Hyd yma, canolbwyntia’r mwyafrif o astudiaethau ar ei ddylanwad ar rywogaethau neu gymunedau unigol. Nod y thesis hwn oedd ymchwilio i effaith R. ponticum ar lefel yr ecosystem. Ystyrir yn benodol newidiadau i briddoedd, yn nhermau eu priodweddau cemegol, cyfraddau cylchu maetholion a chymunedau microbaidd, gan drafod goblygiadau unrhyw newidiadau ar dwf rhywogaethau cynhenid ac adferiad safleoedd wedi clirio R. ponticum. Gwelwyd bod R. ponticum yn cyflwyno cyfansoddion ffytotocsig i’r pridd, ond nad oedd y rhain yn cronni mewn
cyfansoddion digonol i atal twf rhywogaethau cynhenid ac adferiad safleoedd. Mae’n debyg fod hyn o ganlyniad i gyfansoddion yn cael eu clymu gan fater organig a gronynnau clai, eu diraddio gan ficrobau neu eu trwytholchi o’r pridd. Fodd bynnag, gwelwyd fod ymlediad R. ponticum yn asideiddio pridd, gan ffafrio adferiad llwyni dros rywogaethau eraill fel glaswellt. Yn ogystal, gwelwyd gall R. ponticum ddylanwadu ar gymunedau llystyfiant yn anuniongyrchol. Cynhyrcha R. ponticum hen ddail sydd â chynnwys ffenolig uchel, gan arwain at ddadelfeniad araf ac arafu dadelfeniad hen ddail rhywogaethau cynhenid pan yn gymysg. Yn y maes, arweinia briodweddau cemegol hen ddail R. ponticum at ffurfio pridd cemegol wahanol, yn ogystal â dadelfeniad mater organig a chyfradd resbiradaeth pridd is o dan R. ponticum. Ni chafodd clirio R. ponticum unrhyw effaith hir dymor resbiradaeth y pridd, a barhaodd yn isel dros y tymor tyfu canlynol o ganlyniad i ansawdd y mater organig. Yn y pen draw, gall y newidiadau hyn i gyfradd mwyneiddiad mater organig mewn pridd wedi’i oresgyn arwain at bridd llai ffrwythlon o dan R. ponticum, gan ddylanwadu ar
gymunedau llystyfiant ac adferiad safleoedd.

Documents

  • Jones_Gryffydd_Lloyd

    Thesis, 2.03 MB, PDF

    Embargo end date: 31 Dec 2023

    Embargo reason: Seeking Publication

Documents

  • Jones_Gryffydd_Lloyd

    Thesis, 2.03 MB, PDF

    Embargo end date: 31 Dec 2023

    Request copy