"Pe gallwn, mi luniwn lythyr"Ymdriniaeth feirniadol â gwaith Menna Elfyn trwy ohebiaeth ffuglenol

Authors Organisations
Type

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award date20 Jun 2011
Links
Show download statistics
View graph of relations

Abstract

Eir ati yn y traethawd hwn i gynnig dehongliad o waith Menna Elfyn (1951-) gan ddefnyddio dull beirniadaeth epistolaidd. Cyfres o lythyrau ffuglenol at y bardd ac at ohebwraig ddychmygol ifanc o‘r enw Martha a geir yma, sy‘n darlunio sut y mae‘r broses o ddarllen y farddoniaeth yn datblygu dros gyfnod o amser. Bwriad ategol yw herio arferion traethawd academaidd trwy gyfuno llais beirniadol a llais creadigol er mwyn creu beirniadaeth aml-leisiog sy‘n adlewyrchu natur gymhleth ac amlweddog y broses ddarllen.
Cychwynnir gyda llythyrau sy‘n cynnig hyfforddiant i Martha mewn theorïau beirniadol, trwy ddadansoddi cerdd benodol o sawl safbwynt. Yn ogystal â thrafodaeth ar gerddi unigol y bardd mewn llythyrau, ceir darnau academaidd mwy confensiynol yn dadansoddi ei gwaith yn thematig, lle y canolbwyntir yn benodol ar ‗lais y fam‘ a ‗phrotest‘. Ceir trafodaeth hefyd ar oblygiadau perfformio a chyfieithu testunau ynghyd â‘r modd y caiff llên ei marchnata yn y Gymru gyfoes

Keywords

  • Menna Elfyn