Na all fod un Ffydd onyd yr Hen Ffydd Robert Gwyn
Authors
Organisations
Type | Student thesis: Doctoral Thesis › Doctor of Philosophy |
---|
Original language | Welsh |
---|---|
Awarding Institution | |
Supervisors/Advisors | |
Award date | 2016 |
Links |
---|
Abstract
Bwriad y traethawd hwn yw darparu trawsysgrifiad o destun Na all of dun Ffydd onyd yr Hen Ffydd, darn o apologia Gatholig gan Robert Gwyn. Y mae’r testun gwreiddiol yn dyddio o 1574, ond ni oroesa ond mewn un llawysgrif, a gopïwyd yn 1604 gan William Dafydd Llywelyn.
Ceir trafodaeth fanwl ar fywyd a gyrfa lenyddol yr awdur yn y rhagymadrodd, gan geisio darpau bywgraffiad mor llawn â phosibl ohono am y tro cyntaf. Ynghyd â hyn, ceir disgrifiad ac astudiaeth o brif themâu ei waith, a’u gosod yn eu cyd-destun Ewropeaidd ac Archipelagaidd.
Cynhwysir rhestr o’r ffynonellau y defnyddiwyd wrth lunio’r testun, a thrafodaeth ar berthynas y testun â llyfrau rhai o’I athrawon yn y coleg offeiriadol yn Douai, gan geisio dangos eu dylanwad ar ysgrifeniadau Gwyn.
Rhoddir hanes y copïwr a’r llawysgrif, cyn belled â’u bod yn hysbys, a deuir â’r rhaggymadrodd I ben gan drafod iaith y testun, a’r effaith a geid arni gan dafodieithoedd gwahanol yr awdur a’r copïwr. Cynhwysir rhan hir yn trafod a rhestru’r geiriau benthyg Saesneg nigerus a geir yn y testun.
Yna darperir y testun ei hun, gyda throednodiadau yn cyfeirio at ffynonellau a nodweddion llawysgrifol.
Yn olaf ceir yr ôl-nodiadau, lle trafodir y goleuni y mae’r testun yn ei roi ar hanes, iaith, cymdeithas a chrefydd Cymru, Lloegr ac Ewrop yr unfed ganrif ar bymtheg.

Documents
Thesis, 1.07 MB, PDF
Thesis, 330 KB, PDF
Thesis, 637 KB, PDF
Documents
Thesis, 1.07 MB, PDF
Thesis, 330 KB, PDF
Thesis, 637 KB, PDF
![]() |
This work is licensed under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0 International License |
---|