Cymunedau Iaith Lleiafrifol, Mewnfudo a Pholisïau iaith mewn addysgAstudiaeth gymharol ryngwladol

Type

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Thesis sponsors
  • Bwrdd yr Iaith Gymraeg | Welsh Language Board
Award date14 Feb 2014
Links
Show download statistics
View graph of relations

Abstract

Prif nod y traethawd hwn yw tafoli a chymharu effeithiolrwydd polisïau iaith mewn addysg tair llywodraeth is-wladwriaethol yn eu hymdrechion i integreiddio mewnfudwyr i’w cymunedau iaith lleiafrifol. Trwy gynnal ymchwiliad empeiraidd traws-ryngwladol yng Nghatalwnia, Cymru a Québec, mae’r gwaith yn esgor ar ateb i’r prif gwestiwn ymchwil canlynol sef, I ba raddau y gall polisïau iaith mewn addysg hwyluso integreiddiad mewnfudwyr i gymunedau iaith lleiafrifol? Mae’r ffaith fod yr ymchwil wedi’i seilio ar dair astudiaeth achos yn arwain at ddealltwriaeth ddyfnach o’r hyn y gellid ei wneud gan lywodraethau i fynd i’r afael â mewnfudo drwy ddefnyddio un o’r prif sefydliadau sy’n gyfrifol am gynnal ac adfer iaith, sef y system addysg. Trwy’r tair astudiaeth achos, gellir gweld i ba raddau mae’n bosibl i lywodraethau ymateb drwy bolisïau iaith mewn addysg ym maes addysg statudol ac anstatudol. Mae’r traethawd hefyd yn ymchwilio i’r graddau y gall y ffactorau cefndirol megis demograffi, y cyd-destun cyfansoddiadol-wleidyddol a’r hinsawdd economaidd ddylanwadu ar natur y broses ac effeithiolrwydd y polisïau hyn. Mae gan yr ymchwil ddau brif gyfraniad. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r drafodaeth academaidd ar fewnfudo. Gan fod yr ymchwil yn ddarn o waith empeiraidd wedi’i seilio ar theorïau sy’n bodoli yn y llenyddiaeth cynllunio iaith ac addysg ddwyieithog, mae’r gwaith ymchwil yn cyfrannu, yn y lle cyntaf, at feysydd academaidd megis cymdeithaseg iaith, polisi a chynllunio iaith ac addysg, ac yn fwy cyffredinol, gwyddor wleidyddol. Mae’r ddoethuriaeth yn cynnig atebion ynglŷn â rôl a chyfraniad y system addysg yn y broses o integreiddio mewnfudwyr i’r gymuned iaith ac yn darparu gwybodaeth newydd ar brosesau adfer iaith a’r ffactorau a’r amodau sy’n amharu arnynt. Yn ogystal, mae canfyddiadau’r ymchwil yn cymryd cam tuag at gyfoethogi’r llenyddiaeth drwy ddangos y modd y mae ffactorau cefndirol yn dylanwadu ar allu’r polisïau iaith mewn addysg hyn i sicrhau integreiddiad ieithyddol. Yn ail, mae sail empeiraidd yr ymchwil yn golygu y gall fwydo’n ôl i drafodaethau ymarferol ymysg gwneuthurwyr polisi ym maes polisi iaith ac addysg hefyd. Felly, yn ogystal â chyfrannu at drafodaethau mwy academaidd, mae canfyddiadau’r ymchwil yn darparu ffynhonnell ymchwil werthfawr i’r rheiny sy’n chwarae rôl fwy ymarferol yn y broses o adfer iaith yng Nghatalwnia, Cymru a Québec ac yn rhoi syniad o’r hyn y gellid ei wneud yn realistig trwy gyfres o bolisïau.