Archwilio potensial cryfhau’r iaith Gymraeg ac economi’r ardal gydgyfeiriant drwy hybu cydymwneud rhwng cymunedau lleol a’r cyfryngau newyddion proffesiynolAchos Ceredigion a Golwg360

Authors Organisations
Type

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Thesis sponsors
  • Knowledge Economy Skills Scholarships
Award date25 Jan 2016
Links
Show download statistics
View graph of relations

Abstract

Mae’r traethawd yn trafod newyddion lleol Ceredigion, ac yn arbennig ddeunydd tra lleol er mwyn gweld sut y medrir eu cynnwys ar safleoedd a meicrosafleoedd amlblatfform dan adain cwmni newyddion proffesiynol sef Golwg360, adain ar-lein cwmni Golwg Cyf. Holir sut y gallai hynny gyfoethogi bywyd ac economi cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru, a chynnal y Gymraeg fel cyfrwng byw a chyfoes mewn oes o gyfathrebu digidol. Gosodir hyn yng nghyd-destun ehangach newyddion lleol a newyddiaduraeth yn gyffredinol ynghyd â datblygiad ystod o ddyfeisiau technolegol. Tynnir ar gyfnod o brofiad newyddiadurol gyda Golwg360 yn Llanbedr Pont Steffan ac ar waith ymarferol mewn gweithdai a fu’n braenaru’r tir ar gyfer sefydlu gwefan Clonc360. Bu hyn, ynghyd ag ymchwil yn y gymuned ‒ gyda busnesau, Clybiau Ffermwyr Ifainc, papurau bro, disgyblion ysgol, a grwpiau ac unigolion eraill ‒ yn sail i asesu effaith y chwyldro digidol
yn yr ardal, ac i archwilio’r potensial i godi ymwybyddiaeth am werth y cyfryngau
newydd, a’r budd masnachol a diwylliannol a allai ddeillio ohonynt

Documents

Documents