Ap Mentro MeifodSut y gall testunau llenyddol a gwybodaeth hanesyddol gysylltiedig berthnasol gael eu cymhwyso i fod yn gynnwys digidol gweladwy a chlywedol sy’n hybu ymwneud y cyhoedd â threftadaeth ddiwylliannol yn y Gymraeg a’r Saesneg?
Authors
Organisations
Type | Student thesis: Master's Thesis › Master of Philosophy |
---|
Original language | English |
---|---|
Awarding Institution | |
Supervisors/Advisors |
|
Thesis sponsors |
|
Award date | 2016 |
Links |
---|
Abstract
Mae’r traethawd hwn yn ceisio darganfod a oes gwerth mewn digideiddio cynnwys a thestunau llenyddol, treftadol a hanesyddol yng Nghymru er mwyn hyrwyddo treftadaeth a thwristiaeth ddiwylliannol. Ystyrir y ddarpariaeth o destunau llenyddol a gwybodaeth hanesyddol sy’n bodoli e isoes yng Nghymru, gan ystyried ym mha ffurf y cânt eu darparu ar hyn o bryd, a beth fyddai manteision eu datblygu ar ffurf ddigidol. Fel rhan o’r prosiect cynhyrchwyd ap o deithiau cerdded llenyddol wedi’u lleoli yn Sir Drefaldwyn ar y cyd â chwmni Geosho o Gaernarfon (gweler http://mentromeifod.co.uk/). Mae Geosho yn gwmni sy’n arbenigo mewn cynhyrchu apiau a meddalwedd sy’n ymwneud â lleoliad, a lansiwyd yr
ap yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Goro rau 2015 (gweler https://www.youtube.com/watch?v=V0gOSUNYopA). Drwy hynny roedd modd marchnata’r ap yn llwyddiannus am fod ei gynnwys wedi’i seilio ar ardal yr oedd mynychwyr yr Eisteddfod yn y mweld â hi. O ganlyniad i hyn roedd modd derbyn adborth gan y cyhoedd am yr ap a’i gynnwys. Ystyrir twristiaeth ddiwylliannol mewn gwledydd heblaw Cymru hefyd, megis Iwerddon a Gwlad yr Iâ, a sut y maent hwy’n defnyddio eu llenyddiaeth a’u hanes er mwyn hy bu twristiaeth. Edrychwyd yn benodol ar y deunydd sydd ganddynt ar ffurf apiau, a’r rheini yn apiau llenyddol neu yn deithiau cerdded gan mwyaf.
Ar sail cyflawni prif nod y prosiect, cynigir argymhellion ynghylch yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru, Cynghorau Sir, Croeso Cymru ac Amgueddfa Cymru ei wneud i ddigideiddio eu deunydd, a beth fyddai manteision gwneud hynny.

Documents
Documents
![]() |
This work is licensed under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0 International License |
---|