Mae r gyfrol hon yn gwyntyllu hanes un asiantaeth anghofiedig a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith. Wrth ddatguddio hanes lliwgar y sefydliad, dadleuir fod sefydlu r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (1971-86) yn rhan o r frwydr dros ddiogelu a gwarchod yr iaith Gymraeg a yrrwyd gan ysfa caredigion yr iaith i sicrhau parhad iddi. Gyda ffigyrau cyfrifiadau 1961 a 1971 yn tystio i ddihoeni graddol niferoedd y siaradwyr Cymraeg, a chyda r broses ddemocrataidd yn profi n bur aneffeithlon, roedd sefydlu r Bwrdd yn un ymgais arloesol ymhlith nifer i geisio diogelu ac ymrymuso r iaith trwy ddulliau diwylliannol.