Dr Tudur Davies MSc, PhD (Aberystwyth)
Lecturer
- LecturerMathemateg - Dysgu ac Ymchwil
Mathemateg
Physical Sciences Building
Penglais
Aberystwyth

Proffil
Llwyddodd Tudur i ennill gradd mewn Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth yn 2005. Cariodd ymlaen i astudio yma, ac ennillodd radd Meistr mewn Hylifau Cymhleth yn 2006 a PhD yn 2010. Yn ddiweddar, bu'n gweithio fel Cynorthwydd Ymchwil yma; yn gweithio ar brosiect RIVIC (Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol Cymru) mewn modelu a delweddu deunyddiau cymhleth oedd ar y cyd rhwng IMAPS a'r adran Gyfrifiadureg. Mae bellach yn ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma, ble mae'n gweithio ar atgyfnerthu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Mathemateg.
Diddordebau ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil mewn Mathemateg gymhwysol, yn bennaf mewn datblygu efelychiadau rhifiadol i fodelu ymateb hylifau cymhleth megis ewynnau. Rwyf wedi datblygu efelychiadau sy'n edrych ar y rhyngweithiad sy'n digwydd rhwng ewyn hylifog a gwrthrychau caled. Rhan arall o'm gwaith ymchwil yw cymharu canlyniadau efelychiadau â arbrofion: Rwyf wedi datblygu algorithm sy'n ail-greu ewynnau o ddelweddau tri-dimensiwn (wedi'w cael trwy ddull tomograffi), sy'n defnyddio dulliau prosesu delweddau. Yn olaf, rwyf wedi gweithio ar ddatblygu a gwella technegau delweddu data o efelychiadau ac arbrofion o lif ewyn, fel rhan o brosiect ar y cyd wedi'w ariannu gan RIVIC.