Dr Samuel Raybone

Lecturer in Art History

Gweld graff cysylltiadau
  • Lecturer in Art HistoryCelf - Dysgu ac Ymchwil

Celf

Cyswllt
Ffôn: 01970 622465

Proffil

Hanesydd ym meysydd celf a diwylliannau gweledol ydw i, yn arbenigo ar Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (yn enwedig Argraffiadaeth); mewn effemera a’r modd y mae’n dogfennu bywyd bob dydd; ac yn hanes ffotograffiaeth. Mae gen i ddiddordeb mewn damcaniaeth feirniadol, yn fwyaf diweddar gweithiau Walter Benjamin ar hanesyddoldeb fodern, tymoroldeb, ac estheteg.

Rwyf wrthi’n paratoi llyfr, sef Gustave Caillebotte as Worker, Collector, Painter sydd yn ailddehongli gyrfa’r arlunydd hwn a fu’n angof gyhyd trwy dynnu sylw at ei gymhelliant i weithio ac i gasglu. Mae’r ymchwil rydw i’n gweithio arni ar hyn o bryd yn edrych ar effemera — eitemau byrhoedlog, cyffredin tebyg i stampiau post, arian papur, bwydlenni tai bwyta, a blodau llabedi cotiau—yn Ewrop ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Rydw i’n dysgu ym meysydd eang celf a diwylliant Ewropeaidd yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif; ffotograffiaeth o 1839 i’r cyfoes; damcaniaeth feirniadol a dulliau ymchwil; a hanesyddiaeth celf.