Dr Rachel Rahman BSc (Hons, Prifysgol Gogledd LLundain); PhD (Prifysgol Aberystwyth)
Senior Lecturer in Psychology
- Senior Lecturer in PsychologySeicoleg - Dysgu ac Ymchwil
Seicoleg
Llandinam Building
Penglais
Aberystwyth

Diddordebau ymchwil
Ysgogiad a newid ymddygiad mewn seicoleg iechyd ac ymarfer corff yw prif ddiddordebau Dr Rahman, ac mae hefyd wedi gweithio fel swyddog ymchwil ar 'Gynlluniau Ymarfer Corff Ceredigion' yn ymchwilio i ba mor effeithiol yw ymarfer corff o ran gwella cleifion, o safbwynt eu lles seicolegol a'r ffactorau sy'n gallu lleihau risgiau clefyd y galon.
Proffil
Mae gan Dr Rachel Rahman radd anrhydedd BSc o'r radd flaenaf mewn Seicobioleg o Brifysgol Gogledd Llundain a PhD mewn seicoleg o Brifysgol Aberystwyth. Mae gan Rachel arbenigedd mewn Seicoleg Iechyd gan ddefnyddio methodoleg gymysg i ddeall cymhellion a phrofiadau cleifion mewn clefyd cronig a gofal diwedd oes. Ar hyn o bryd mae Rachel yn datblygu rhaglen ymchwil ddiddorol sy'n edrych ar gymhwyso tele-iechyd mewn gofal iechyd gwledig.
Mae gan Rachel brofiad helaeth o addysgu mewn ystod o feysydd megis seicoleg iechyd, dulliau ymchwil a seicoleg fiolegol ac fel un o aelodau sefydliadol yr adran, mae wedi bod yn allweddol wrth gyflawni achrediad BPS. Mae hi'n eistedd ar ystod o bwyllgorau proffesiynol gan gynnwys cangen BPS Cymru o'r Isadran Seicoleg Iechyd ac mae ar Fwrdd Partneriaeth Prifysgol Hywel Dda. Mae Rachel yn aelod siartredig o'r BPS (CPsychol) ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Dysgu
Ers ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, mae'r Dr Rahman wedi chwarae rhan mewn datblygu a dysgu modiwlau israddedig mewn ymchwil meintiol a bioseicolegol o astudio ymddygiad dynol.