Dr Lowri Cunnington Wynn BA Sociology and Social Policy: Bangor University PhD: Bangor University
Darlithydd Cyfrwng Cymraeg Mewn Troseddeg
- Darlithydd Cyfrwng Cymraeg Mewn TroseddegYsgol y Gyfraith Aberystwyth - Dysgu ac Ymchwil
Ysgol y Gyfraith Aberystwyth
Proffil
Graddiodd Lowri o Brifysgol Bangor yn 2007 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithaseg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y flwyddyn ar ôl graddio, gweithiodd fel swyddog ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg, yn astudio effaith dwyieithrwydd ar ymddygiad gwybyddol. Yna enillodd ysgoloriaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gwblhau ei doethuriaeth yn 2008. Roedd ei thraethawd doethurol yn trafod y ffaith bod pedair gwaith mwy o bobl ifanc nad ydynt wedi eu geni yng Nghymru yn gadael cadarnleoedd y Gymraeg na phobl ifanc a anwyd yma, gan effeithio ar gyfansoddiad cymunedau gwledig. Ysgrifennodd erthygl y seiliedig ar y ddoethuriaeth yma a enillodd Gwobr Gwerddon yn 2019 a gafodd ei ddyrannu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Lowri wedi gweithio'n bennaf yn y sector ymchwil gymdeithasol mewn swyddi ôl-radd i Wavehill Consultancy, Prifysgol Bangor a Comisiynydd y Gymraeg. Yn ddiweddar, mae hi wedi magu diddordeb eang mewn materion amgylcheddol, yn benodol Troseddeg Werdd. Mae hi bellach wedi datblygu modiwl ol-radd sy'n seiliedig ar hyn o'r enw, 'International Perspectives of Green Criminology.' Mae ganddi brofiad eang o werthuso projectau a ariennir gan Ewrop, cynllunio asesiadau effaith, prosiectau ymchwil penodol a chynnal ymgynghoriadau cymunedol. Ynghyd â'i chefndir academaidd, mae Lowri yn angerddol am weithio o fewn ei chymuned ac mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o brojectau yn ei milltir sgwâr.
Gwybodaeth ychwanegol
Bellach, mae Lowri yn Ddarlithydd Cyfrwng Cymraeg mewn Troseddeg i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Diddordebau ymchwil
Troseddeg Werdd
Niwed Amgylcheddol
Dysgu Iaith a Dewis Gofal Plant yng Nghymru: Wales Journal of Education
Allfudiaeth a Dyheadau Pobl Ifanc o’r Bröydd Cymraeg: Gwerddon
Cyfrifoldebau
Cydlynydd Mentoriaid Cymheiriaid Adrannol
Cydlynu a Datblygu darpariaeth Cymraeg
Recriwtio Myfyrwyr
Cydlynu Diwrnodau Agored ac Ymweld