Dr Charles Musselwhite PhD (Psychology and Car Driver Behaviour, University of Southampton), PGCert with Distinction (Research Supervision, Bournemouth University), BSc Hons (Psychology, University of Southampton)
Chair in Psychology
Proffil
Rwy’n Athro Seicoleg, ac yn ddeiliad Cadair yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy ymchwil yn cynnwys defnyddio seicoleg gymdeithasol, amgylcheddol ac iechyd i ddeall a gwella’r berthynas rhwng yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth ac iechyd. Rwy’n gyd-gyfarwyddwr dwy ganolfan ymchwil a ariennir, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd. Rwyf hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n 51 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion, 25 o benodau mewn llyfrau a phum llyfr. Bûm yn aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Gerontoleg Prydain (BSG) rhwng 2015 a 2020, ac yn sefydlydd a chyd-arweinydd grŵp diddordeb arbennig y BSG ar symudedd a thrafnidiaeth yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae fy ngwaith ymchwil wedi cynnwys dros 100 o gyflwyniadau mewn cynadleddau, gan gynnwys cyflwyniadau gwadd mewn dros 50 o gynadleddau rhyngwladol a chenedlaethol. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r llywodraeth, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector ac rwy’n awyddus i ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn rhannu fy ymchwil gyda’r byd go iawn. Rwyf wedi gwneud dau gyflwyniad mewn Gwyliau Gwyddoniaeth Prydeinig (2008 a 2016) ac wedi ysgrifennu llawer o erthyglau ar gyfer y cyhoedd. Rwyf wedi ymddangos ar deledu a radio yn trafod amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â heneiddio, symudedd a’r amgylchedd adeiledig. Rwy’n brif olygydd y Journal of Transport & Health (Elsevier) ac ar fwrdd golygyddol cyfnodolion EnvisAGE (Age Cymru) a Research in Transportation Business & Management (Elsevier).
Diddordebau ymchwil
Dau brif faes o ddiddordeb sydd gennyf, sef (1) gerontoleg amgylcheddol, yn craffu ar y berthynas rhwng yr amgylchedd ac iechyd yn ystod y cyfnodau diweddarach mewn bywyd, gan gynnwys diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd hŷn, rhoi'r gorau i yrru, a chreu cymdogaethau a chymunedau mwy addas i bobl hŷn; (2) trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol ar drafnidiaeth a symudedd. Rwyf wedi gweithio ar 39 o brosiectau ymchwil fel prif ymchwilydd neu cyd-ymchwilydd, yn dod â chyfanswm o dros £25m o incwm ymchwil. Ar hyn o bryd myfi yw’r Prif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr ar 2 brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru: sef (1) y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), prosiect £3m i sicrhau bod ymchwil i heneiddio yn bwydo i bolisi ac ymarfer ledled Cymru; (2) Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gwerth £400k, sy’n dwyn ynghyd y rhai sy'n gweithio ym mesydd ymchwil iechyd a thrafnidiaeth o wahanol ddisgyblaethau.